WORK/ GWEITHIO

 

Watch/ Gwylio:

 

Stories / Storiau:

The United Purpose-supported women's collective in Niary Tally prepare soap. Bars are sold at a profit and some soap is donated to schools and religious centres to encourage hygiene and fight the spread of the disease. / Cydweithfa menywod Niary Tally, sy’n derbyn cefnogaeth gan United Purpose, yn paratoi sebon. Mae’r bariau sebon yn cael eu gwerthu am elw, gydag ychydig yn cael ei roi i ysgolion a chanolfannau crefyddol i annog hylendid ac i ymladd lledaeniad y clefyd. (Maodo Malick Sall, Senegal)

Women from the collective exchange money as part of a community savings group. Members of the collective contribute 1000CFA each month, which goes into a central fund that is divided equally between all the members throughout the year. / Menywod o’r gydweithfa yn cyfnewid arian fel rhan o grŵp cynilo cymunedol. Mae aelodau’r gydweithfa yn cyfrannu 1000CFA bob mis, sy’n mynd i gronfa ganolog sydd wedyn yn cael ei rhannu’n gyfartal rhwng yr holl aelodau drwy gydol y flwyddyn. (Maodo Malick Sall, Senegal)

Kankou Keita, aged 38, sells onions and oil to her young client. She works as a trader, running a small grocery store from her yard. / Kankou Keita, sy’n 38 mlwydd oed, yn gwerthu winwns ac olew i’w chwsmer ifanc. Mae hi’n gweithio fel masnachwraig yn y siop fwyd sydd ganddi yn ei gardd. (Mountaga Dramé, Guinea/ Gini)

An association of women (‘pileuses’) gather together, ready to begin their work – pounding corn into flour by hand. / Cymdeithas o fenywod (‘pileuses’) yn ymgasglu, yn barod i ddechrau eu gwaith – sef malu corn yn flawd gyda llaw. (Mountaga Dramé, Guinea/ Gini)

Mahkémé Condé, 19 years old, works as a seamstress in her workshop located in the courtyard of the family home. She makes her income sewing and repairing clothes in the village. / Mae Mahkémé Condé, sy’n 19 mlwydd oed, yn gweithio fel gwniadwraig yn ei gweithdy yng nghlos cartref y teulu. Mae hi’n ennill bywoliaeth drwy wnïo a thrwsio dillad yn y pentref. (Mountaga Dramé, Guinea/ Gini)

 

The global pandemic disrupted work, threatening people's livelihoods across the globe. People depending on their daily earnings, or unable to work from home, faced particularly big challenges. Across West Africa, governments did not provide for loss of income. United Purpose supported small-scale farmers and female entrepreneurs to find new opportunities to produce and sell goods, to save and invest money together. Challenges have sparked innovation and collaboration. 

 Fe wnaeth y pandemig byd-eang darfu ar waith, gan fygwth bywoliaeth pobl ledled y byd. Roedd pobl a oedd yn dibynnu ar eu henillion dyddiol, neu a oedd yn methu gweithio gartref, yn wynebu heriau arbennig o fawr. Yng Ngorllewin Affrica, doedd dim darpariaeth gan lywodraethau ar gyfer colli incwm. Cefnogodd United Purpose ffermwyr sy’n amaethu ar raddfa fach ac entrepreneuriaid benywaidd i ganfod cyfleoedd newydd i gynhyrchu a gwerthu nwyddau, i gynilo ac i fuddsoddi arian ar y cyd. Mae heriau wedi sbarduno arloesi a chydweithio.