LEARN / DYSGU

 

Watch / Gwylio:

 

Stories / Storiau:

During an awareness workshop, Robert Kanung spreads his arms to demonstrate the distance people should keep to avoid infection. / Yn ystod gweithdy ymwybyddiaeth, Robert Kanung yn lledu ei freichiau i ddangos y pellter y dylai pobl ei gadw i osgoi haint. (Nelson Owoicho, Nigeria)

As part of her work with the women's collective, Bola Ba goes door to door in her community to spread awareness about preventing the spread of COVID-19. / Fel rhan o’i gwaith gyda chydweithfa’r menywod, mae Bola Ba yn mynd o ddrws i ddrws yn ei chymuned i hybu ymwybyddiaeth am atal lledaeniad COVID-19. (Maodo Malick Sall, Senegal)

During an educational event, a masked dancer performs in honour of the rainy season. / Yn ystod digwyddiad addysgol, mae’r sawl sy’n dawnsio’n gwisgo masg ac yn talu teyrnged i’r tymor glawog. (Mountaga Dramé, Guinea/ Gini)

DJ Ditz uses his sound system to bring knowledge, and tunes, to his community. Music is a strong vehicle for information and social messaging in Nigeria. / DJ Ditz yn defnyddio ei system sain i gyflwyno gwybodaeth, a chaneuon, i’w gymuned. Mae cerddoriaeth yn gyfrwng gwybodaeth a negeseuon cymdeithasol pwysig yn Nigeria. (Nelson Owoicho, Nigeria)

DJ Ditz waves from a minibus. Bringing music, visual messages and conversations to the community, the bus is a communication machine on wheels. / DJ Ditz yn codi llaw o fws mini. Gan ddod â cherddoriaeth, negeseuon gweledol a sgyrsiau i’r gymuned, mae’r cerbyd yn beiriant cyfathrebu ar olwynion. (Nelson Owoicho, Nigeria)

A traditional communicator sings about the importance of a nutritious diet while women work in a communal field. / Cyfathrebwr traddodiadol yn canu am bwysigrwydd deiet priodol tra bod menywod yn gweithio mewn cae cymunedol. (Mohamed Touray, The Gambia/ Y Gambia)

 

New challenges demand new solutions, and the global pandemic has also triggered creativity, learning and information-sharing across the world. Across West Africa, United Purpose has worked with musicians, community activists and local governments to spread knowledge about staying healthy and limiting the spread of the virus. This time of disruption and challenges has also become a time to communicate, innovate and learn. 

 Mae heriau newydd yn galw am atebion newydd, ac mae’r pandemig byd-eang hefyd wedi sbarduno creadigrwydd, dysgu a rhannu gwybodaeth ledled y byd. Ledled Gorllewin Affrica, mae United Purpose wedi gweithio gyda cherddorion, ymgyrchwyr cymunedol a llywodraethau lleol i rannu gwybodaeth am gadw’n iach a chyfyngu ar ledaeniad y feirws. Mae’r cyfnod hwn o darfu a heriau hefyd wedi dod yn gyfnod o gyfathrebu, arloesi a dysgu.